Daeth canlyniadau’r cyfrifiad yn ôl ym mis Rhagfyr 2022 fel ergyd i’r nifer sydd wedi’n gweithio’n ddiflino dros yr iaith yn ystod y degawd diwethaf a mwy, nifer fawr ohonynt yn gwneud hyn o’i wirfodd. Daeth fel sioc i rai ond ddim i bawb, mae nifer ohonom wedi bod yn rhybuddio fod yr ymyraethau presennol ac yn enwedig y diffyg momentwm i gynnig fwy o lefydd addysg cyfrwng Cymraeg ar y cyd a lleihau’r niferoedd sy’n derbyn ei addysg drwy gyfrwng y Saesneg.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer sy’n gweithio yn y sector “Iaith Gymraeg” wedi derbyn cyflogau hael a nifer cyfyngedig o sefydliadau a mudiadau wedi derbyn symiau sylweddol o arian cyhoeddus er mwyn hwyluso cynnydd y nifer sy’n medru ag yn defnyddio’r Gymraeg.
Felly be aeth o le? A lle mae’r atebolrwydd am fethiannau’r degawd a fu?
Ges i fy magu yn y saithdegau ar y ffin mewn pentref bach o’r enw Gwynfryn ger Wrecsam, pentref di Gymraeg ar yr olwg gyntaf, ond wrth grafu dyma ddod i sylweddoli bod nifer o drigolion Gwynfryn, a’r pentref cyfagos Bwlchgwyn, yn Gymry Cymraeg. Cenhedlaeth hun oedd wedi profi’r ail ryfel byd ac wedi penderfynu fel un haid i beidio trosglwyddo’r Gymraeg i’w plant.
Saesneg oedd iaith y dafarn gyda’r Cymry yn gyndyn i ddatguddio eu galluoedd ieithyddol, dal yn sownd mewn byd o Brydeindod a llwyddiant y byd gorllewinol iaith Saesneg a drechodd Hitler, diolch i dduw.
Wedi’r rhyfel gwelwyd y shifft ieithyddol gyda nifer fawr, yn enwedig yn yr ardaloedd diwydiannol, yn penderfynu peidio trosglwyddo’r Gymraeg i’w plant. Gwell canolbwyntio ar un iaith, ac un sydd â defnydd ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Trowch y cloc ymlaen bron i hanner canrif ac mae wyrion nifer o’r Cymry hyn yn manteisio ar y cyfle o fod yn ddwyieithog mewn Cymru gyfoes diolch i’w rhieni a gollodd allan ar y cyfle i fedru siarad yr iaith ei hunain.
Mae twf y Gymraeg o ran niferoedd yn yr ardaloedd ôl diwydiannol i weld, ar bapur, yn galonogol. Yn enwedig o ystyried sut mae’r iaith wedi colli tir yn yr hen gadarnleoedd gorllewinol diolch i fewnfudo a’r “bren drên” o Gymry ifanc sy’n chwilio am gyfleodd gwaith sydd ddim yn bodoli yn y cymunedau lle y magwyd.
Ond er bod yna gynnydd yn y nifer o blant a phobol ifanc sy’n medru’r Gymraeg diolch i dwf addysg cyfrwng Cymraeg, faint o rain sy’n defnyddio’r iaith neu’n ymwneud a’r iaith unwaith mae’r gloch yn canu i arwyddo fod y diwrnod ysgol ar ben?
Mae ymchwil yn awgrymu fod 60% o blant sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn dod o gartrefi uniaith Saesneg, 20% lle mae un rhiant yn medru’r Gymraeg ac 20% o aelwydydd Cymraeg.
Dwi’n perthyn i’r ail garfan, yr 20% lle mae un rhiant yn medru’r Gymraeg. Yn fy achos i ddim ond Cymraeg dwi’n siarad efo’r plant, a hynny ym mhresenoldeb fy ngwraig sydd wedi dysgu Cymraeg ond sydd ddim yn hyderus yn ei siarad. Felly mae’r Gymraeg i’w glywed ar yr aelwyd yn ddyddiol.
Iaith yr ysgol yw’r Gymraeg iddyn nhw, Saesneg maen nhw’n siarad efo’i ffrindiau, Saesneg yn bennaf yw’r gerddoriaeth a’r cynnwys maen nhw’n gwrando arno a gwylio, mae dylanwad anime yn golygu ei bod yn gwylio cynnwys Siapaneaidd, ond gydag is-deitlau Saesneg, dy nhw ddim yn bodoli yn y Gymraeg.
Saesneg yw’r cynnwys maen nhw’n gwylio ar YouTube, cynnwys sy’n deillio o’r Unol Daleithiau yn bennaf a Saesneg yw iaith y rhyngwynebau’r llwyfannau digidol a’r gemau maent yn defnyddio’n ddyddiol.
Maen nhw’n byw ei bywydau mewn byd digidol tra mae’r Gymraeg i’w weld yn trigo mewn byd analog.
Dyw hyn ddim yn anghyffredin i Gymru, mae Gwlad yr Ia wedi datgan pryderon bod pobol ifanc ei gwlad yn byw bywydau cynyddol Saesneg, hyn oherwydd dylanwad syfrdanol cynnwys o’r UDA a’r diffyg adnoddau digidol yn yr iaith frodorol.
Ddim dyma’r rheswm am y gostyngiad yn y niferoedd sy’n medru’r Gymraeg ond mae’n amlygu problemau llawer mwy dwys, faint yn wir yw’r niferoedd sy’n defnyddio’r Gymraeg? A lle mae’r cyfleoedd iddynt ddefnyddio’r Gymraeg ac ymwneud a’r Gymraeg mewn ffordd naturiol?
A’r cwestiwn mawr arall yw lefelau hyder unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg, yn enwedig ymysg y rhai o gartrefi di Gymraeg a gafodd addysg cyfrwng Cymraeg. Mae nifer o’r garfan hon heb siarad y Gymraeg ers gadael yr ysgol, ac er ei bod yn danfon ei phlant i ysgolion Cymraeg dyw’r hyder ddim yna , ymysg nifer, i siarad Cymraeg a’i phlant.
Da ni wedi creu haenau o Gymreictod o fewn ein cymdeithas. Yn sicr mae angen gweithredu ar frys i greu’r amodau gall sicrhau fod cadarnleoedd y Gymraeg yn gweld twf yn y nifer o siaradwyr a bod y Gymraeg yn cadw ei le fel iaith gymunedol. Mae angen cynllunio economaidd cywrain a datblygu cyfleoedd i bobol medru aros a dychwelyd i’r ardaloedd hyn.
Roedd pennod ddiweddar o’r Byd ar Bedwar yn rhoi sylw i sefyllfa’r Gymraeg, a gafodd un cyfweliad cryn dipyn o sylw a chreu lot o ysgwyd pen. Ffarmwr o Dregaron, Cymro Cymraeg, er taw addysg Gymraeg oedd ei blant yn derbyn oedd yn amlwg ei fod ef, a’i wraig, oedd ddim yn siarad Cymraeg, ddim yn gweld gwerth yn y Gymraeg.
A dyna’r gair pwysig “gwerth”. Mae gwerth wedi bod yn elyn i’r Gymraeg ers degawdau, ac yn fy marn i yn un o’r rhesymau pam gwnaeth cenedlaethau blaenorol cymryd y penderfyniad i beidio trosglwyddo’r Gymraeg i’w plant. Saesneg oedd iaith y byd newydd cyffrous llawn botensial. Pam gwastraffu egni ar ddwy iaith pan mae modd canolbwyntio ar un?
Mae’r mwyafrif llethol o Gymry yn gweld ei werth tu hwnt i ffiniau economaidd, mae’r iaith yn rhan ohonom, yn rhan o’n heneidiau, mae’n fwy na modd o gyfathrebu.
Ond, be am werth economaidd y Gymraeg? Mae’r ddadl yn erbyn addysg Gymraeg a gwerth y Gymraeg wedi ei selio ar y ffaith fod neb, heblaw am lond llaw o bobol yn dde America, yn siarad Cymraeg tu hwnt i glawdd Offa.
“We should be teaching our children useful languages like Chinese or German, they’ll be far more useful in the World of commerce and trade” a “Learning Welsh means children spend less time learning important subjects like màths”
Sawl tro da ni di clywed y dadleuon hyn?
Y gwir amdani yw da ni ddim yn neud digon o amlygu manteision addysg cyfrwng Cymraeg yn gyd-destun dwyieithrwydd. Does mond rhaid rhoi “benefits of being bilingual or multilingual” i mewn i Google i dderbyn llu o erthyglau, nifer gan academyddion, sy’n amlygu manteision dwyieithrwydd. Manteision iechyd a manteision addysgol.
Mae dros yn hanner y byd yn medru dwy iaith neu fwy, mae’r gallu i siarad Saesneg a “iaith arall” yn sgil benodol sydd â manteision enfawr o fewn economi rhyngwladol aml ieithyddol.
Mae datblygiadau yn y byd digidol wedi amlygu pwysigrwydd y gallu i gynnig gwasanaethau a’r angen i ddatblygu technolegau sy’n galluogi fwy o bobl i ymwneud a thechnoleg a chynnwys mewn ieithoedd brodorol yn cynnig cyfle unigryw i ni yma yng Nghymru.
Gall datblygu diwydiant sy’n ganolog ar ddwyieithrwydd a’r dechnoleg o ddarparu cynnwys digidol mewn amryw o ieithoedd creu sector economaidd newydd sy’n unigryw i Gymru o fewn y DU, trwy arloesi gall greu allbynnau sy’n hynod fanteisiol i’r Gymraeg.
Gall buddsoddiad gan lywodraeth creu cannoedd o swyddi newydd, creu cyfleoedd i Gymry ifanc i aros o fewn a dychwelyd i’r cymunedau sydd angen chwistrelliad o waed ifanc.
Trwy amlygu manteision economaidd dwyieithrwydd mae’r her o “werthu’r” syniad o ddatblygu ysgolion cyfrwng Saesneg yn ysgolion lle mae disgyblion yn datblygu’r gallu i gyfathrebu a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ochr yn ochr â Saesneg yn mynd cymaint yn haws.