Dyfodol Darlledu

Ar ddydd Iau’r 10fed o Dachwedd, drwy garedigrwydd yr RTS, mi fydda’i yng nghwmni Bethan Jenkins AC, Martin Shipton a Dr Ruth McElroy yn trafod, ymysg pynciau eraill, dyfodol darlledu yng Nghymru. Mae dyfodol S4C a’r BBC wedi bod yn bynciau trafod amlwg yn ddiweddar ag yn siŵr o fod am gyfnod i ddod.

Ond pan drafodwn ddarlledu heddiw, be yn union sydd gennym mewn golwg? Fel un o blant olaf y chwedegau ges i fy magu mewn oes o dair sianel, oedd gwylio i gyd yn fyw, oedd yr amserlen yn sefydlog, oedd pawb yn gwybod pryd oedd eu hoff sioeau ymlaen ag yn trefnu eu bywydau o’i hamgylch. Doedd o ddim tan i mi gyrraedd fy‘n harddegau cynnar ar gychwyn yr 80’au y daeth dwy sianel newydd i Gymru ar ffurf S4C a Channel 4, hwn hefyd oedd oes dyfodiad y VCR, pan ddaeth yr hyd a lledrith o’r gallu i “recordio” teledu a’i wylio pryd bynnag a ddymunir, hefyd yn dod a’r sinema i’r cartref diolch i’r siop fideo leol. Un sgrin oedd yn y cartref arferol, er yr oeddwn yn ddigon ffodus i fod ag ail sgrin, “portable” du a gwyn.

Heddiw yn 2016 mae’r dirwedd “darlledu” wedi newid tu hwnt i bob dychymyg, mae cynnwys ym mhobman, ar gael ar amryw o ddyfeisiadau ar nifer ryfeddol o blatfformau. Tra mae’r sgrin fawr yn yr ystafell fyw wedi parhau fel canolbwynt hynod boblogaidd, ac wedi tyfu o ran maint, mae argaeledd yr ail sgrin wedi ffrwydro.

Mae dau aflonyddwr amlwg wedi ymddangos sy’n bygwth y model darlledu draddodiadol, yn gyntaf sgriniau’r tabledi a’r ffonau clyfar sy’n trigo ym mhocedi’r mwyafrif heddiw (dros 66% yng Nghymru yn ôl amcangyfrif diweddaraf Ofcom) ag yn ail y rhwydweithiau cymdeithasol sy’n mynnu ein sylw pob awr o’r dydd.

Mae deall y dirwedd yma sy’n newid yn barhaol yn her, ag i ni sy’n neud bywoliaeth o ddehongli a datblygu strategaethau sy’n ymateb i’r newidiadau mae dylanwad cynyddol Facebook fel platfform dosbarthu fideo yn hynod ddiddorol. Mae cynulleidfaoedd yn cael mynediad cynyddol i gynnwys fideo trwy’r rhwydwaith cymdeithasol, sy’n parhau i dyfu yn groes i’r adroddiadau cyson am ei farwolaeth. Fel platfform ar gyfer gwylio fideo mae’n cynyddu o ran dylanwad ag yn datblygu fel “y lle” i wylio cynnwys.

Mae’r twf yma’n cael ei ddisgrifio fel “her” i ddarlledu traddodiadol, ond a yw hyn yn her go iawn? Ond yw hi jyst yn fater o ffaith bod cynulleidfaoedd yn newid y ffordd maen nhw’n gwylio cynnwys?

Y newid arall sylweddol rhwng darlledu traddodiadol a’r cyfryngau cymdeithasol yw argaeledd data. Mae Facebook yn medru dweud wrthych chi pwy sy’n ymwneud a’ch cynnwys ac yn cynnig gofod i bobol gadael sylwadau a rhoi eu sêl bendith, neu i basio beirniadaeth. Cymharwch hyn a darlledu traddodiadol sy’n canolbwyntio ar ffigyrau gwylio a chyrhaeddiad, y nifer o unigolion sy’n gwylio rhaglen am 3 munud neu fwy, hyn oll wedi ei weithio allan ar sail sampl o 5,000 o gartrefi sydd â blwch monitro yn eu cartrefi.

Felly pam nad yw gwylio cynnwys ar Facebook yn cario’r un lefel o barch a phwysau a ffigyrau gwylio dros nos? Dwi’n derbyn fod y cynnwys yn wahanol, boed yn cynnwys ffurf fer neu’n darn o raglen, ond onid enghraifft o gynulleidfa yn ymwneud a chynnwys yw hyn? Does dim ateb syml, ond i fi mae yna newid ar dro. Mae pobl, nawr, yn gwylio amrywiaeth o gynnwys fideo, ar amryw o blatfformau ar ddyfeisiadau sy’n eu siwtio nhw. Bydd darlledu draddodiadol yn parhau i fod yn rhan o’r arlwy, ond prysur agosáu mae’r amser pan fydd cynulleidfaoedd yn dechrau defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol, fel Facebook, i wylio cynnwys ffurf hir, ac fe ddaw’r dydd, bydd dyfodol “darlledu” yn edrych yn dra gwahanol.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *