{"id":1496,"date":"2023-02-12T13:30:33","date_gmt":"2023-02-12T13:30:33","guid":{"rendered":"https:\/\/marshall.cymru\/?p=1496"},"modified":"2023-02-12T13:30:34","modified_gmt":"2023-02-12T13:30:34","slug":"be-nesa-ir-gymraeg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/marshall.cymru\/?p=1496","title":{"rendered":"Be nesa i\u2019r Gymraeg?"},"content":{"rendered":"\n<p>Daeth canlyniadau\u2019r cyfrifiad yn \u00f4l ym mis Rhagfyr 2022 fel ergyd i\u2019r nifer sydd wedi\u2019n gweithio\u2019n ddiflino dros yr iaith yn ystod y degawd diwethaf a mwy, nifer fawr ohonynt yn gwneud hyn o\u2019i wirfodd. Daeth fel sioc i rai ond ddim i bawb, mae nifer ohonom wedi bod yn rhybuddio fod yr ymyraethau presennol ac yn enwedig y diffyg momentwm i gynnig fwy o lefydd addysg cyfrwng Cymraeg ar y cyd a lleihau\u2019r niferoedd sy\u2019n derbyn ei addysg drwy gyfrwng y Saesneg.<\/p>\n\n\n\n<p>Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer sy\u2019n gweithio yn y sector \u201cIaith Gymraeg\u201d wedi derbyn cyflogau hael a nifer cyfyngedig o sefydliadau a mudiadau wedi derbyn symiau sylweddol o arian cyhoeddus er mwyn hwyluso cynnydd y nifer sy\u2019n medru ag yn defnyddio\u2019r Gymraeg.<\/p>\n\n\n\n<p>Felly be aeth o le? A lle mae\u2019r atebolrwydd am fethiannau&#8217;r degawd a fu?<\/p>\n\n\n\n<p>Ges i fy magu yn y saithdegau ar y ffin mewn pentref bach o\u2019r enw Gwynfryn ger Wrecsam, pentref di Gymraeg ar yr olwg gyntaf, ond wrth grafu dyma ddod i sylweddoli bod nifer o drigolion Gwynfryn, a\u2019r pentref cyfagos Bwlchgwyn, yn Gymry Cymraeg. Cenhedlaeth hun oedd wedi profi\u2019r ail ryfel byd ac wedi penderfynu fel un haid i beidio trosglwyddo\u2019r Gymraeg i\u2019w plant.<\/p>\n\n\n\n<p>Saesneg oedd iaith y dafarn gyda\u2019r Cymry yn gyndyn i ddatguddio eu galluoedd ieithyddol, dal yn sownd mewn byd o Brydeindod a llwyddiant y byd gorllewinol iaith Saesneg a drechodd Hitler, diolch i dduw.<\/p>\n\n\n\n<p>Wedi\u2019r rhyfel gwelwyd y shifft ieithyddol gyda nifer fawr, yn enwedig yn yr ardaloedd diwydiannol, yn penderfynu peidio trosglwyddo\u2019r Gymraeg i\u2019w plant. Gwell canolbwyntio ar un iaith, ac un sydd \u00e2 defnydd ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt.<\/p>\n\n\n\n<p>Trowch y cloc ymlaen bron i hanner canrif ac mae wyrion nifer o\u2019r Cymry hyn yn manteisio ar y cyfle o fod yn ddwyieithog mewn Cymru gyfoes diolch i\u2019w rhieni a gollodd allan ar y cyfle i fedru siarad yr iaith ei hunain.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae twf y Gymraeg o ran niferoedd yn yr ardaloedd \u00f4l diwydiannol i weld, ar bapur, yn galonogol. Yn enwedig o ystyried sut mae\u2019r iaith wedi colli tir yn yr hen gadarnleoedd gorllewinol diolch i fewnfudo a\u2019r \u201cbren dr\u00ean\u201d o Gymry ifanc sy\u2019n chwilio am gyfleodd gwaith sydd ddim yn bodoli yn y cymunedau lle y magwyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Ond er bod yna gynnydd yn y nifer o blant a phobol ifanc sy\u2019n medru\u2019r Gymraeg diolch i dwf addysg cyfrwng Cymraeg, faint o rain sy\u2019n defnyddio\u2019r iaith neu\u2019n ymwneud a\u2019r iaith unwaith mae\u2019r gloch yn canu i arwyddo fod y diwrnod ysgol ar ben?<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ymchwil yn awgrymu fod 60% o blant sy\u2019n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn dod o gartrefi uniaith Saesneg, 20% lle mae un rhiant yn medru\u2019r Gymraeg ac 20% o aelwydydd Cymraeg.<\/p>\n\n\n\n<p>Dwi\u2019n perthyn i\u2019r ail garfan, yr 20% lle mae un rhiant yn medru\u2019r Gymraeg. Yn fy achos i ddim ond Cymraeg dwi\u2019n siarad efo\u2019r plant, a hynny ym mhresenoldeb fy ngwraig sydd wedi dysgu Cymraeg ond sydd ddim yn hyderus yn ei siarad. Felly mae\u2019r Gymraeg i\u2019w glywed ar yr aelwyd yn ddyddiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Iaith yr ysgol yw\u2019r Gymraeg iddyn nhw, Saesneg maen nhw\u2019n siarad efo\u2019i ffrindiau, Saesneg yn bennaf yw\u2019r gerddoriaeth a\u2019r cynnwys maen nhw\u2019n gwrando arno a gwylio, mae dylanwad anime yn golygu ei bod yn gwylio cynnwys Siapaneaidd, ond gydag is-deitlau Saesneg, dy nhw ddim yn&nbsp; bodoli yn y Gymraeg.<\/p>\n\n\n\n<p>Saesneg yw\u2019r cynnwys maen nhw&#8217;n gwylio ar YouTube, cynnwys sy\u2019n deillio o\u2019r Unol Daleithiau yn bennaf a Saesneg yw iaith y rhyngwynebau&#8217;r llwyfannau digidol a\u2019r gemau maent yn defnyddio\u2019n ddyddiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Maen nhw\u2019n byw ei bywydau mewn byd digidol tra mae\u2019r Gymraeg i\u2019w weld yn trigo mewn byd analog.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyw hyn ddim yn anghyffredin i Gymru, mae Gwlad yr Ia wedi datgan pryderon bod pobol ifanc ei gwlad yn byw bywydau cynyddol Saesneg, hyn oherwydd dylanwad syfrdanol cynnwys o\u2019r UDA a\u2019r diffyg adnoddau digidol yn yr iaith frodorol.<\/p>\n\n\n\n<p>Ddim dyma\u2019r rheswm am y gostyngiad yn y niferoedd sy\u2019n medru\u2019r Gymraeg ond mae\u2019n amlygu problemau llawer mwy dwys, faint yn wir yw\u2019r niferoedd sy\u2019n defnyddio\u2019r Gymraeg? A lle mae\u2019r cyfleoedd iddynt ddefnyddio\u2019r Gymraeg ac ymwneud a\u2019r Gymraeg mewn ffordd naturiol?<\/p>\n\n\n\n<p>A\u2019r cwestiwn mawr arall yw lefelau hyder unigolion i ddefnyddio\u2019r Gymraeg, yn enwedig ymysg y rhai o gartrefi di Gymraeg a gafodd addysg cyfrwng Cymraeg. Mae nifer o\u2019r garfan hon heb siarad y Gymraeg ers gadael yr ysgol, ac er ei bod yn danfon ei phlant i ysgolion Cymraeg dyw\u2019r hyder ddim yna , ymysg nifer, i siarad Cymraeg a\u2019i phlant.<\/p>\n\n\n\n<p>Da ni wedi creu haenau o Gymreictod o fewn ein cymdeithas. Yn sicr mae angen gweithredu ar frys i greu\u2019r amodau gall sicrhau fod cadarnleoedd y Gymraeg yn gweld twf yn y nifer o siaradwyr a bod y Gymraeg yn cadw ei le fel iaith gymunedol. Mae angen cynllunio economaidd cywrain a datblygu cyfleoedd i bobol medru aros a dychwelyd i\u2019r ardaloedd hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd pennod ddiweddar o\u2019r Byd ar Bedwar yn rhoi sylw i sefyllfa\u2019r Gymraeg, a gafodd un cyfweliad cryn dipyn o sylw a chreu lot o ysgwyd pen. Ffarmwr o Dregaron, Cymro Cymraeg, er taw addysg Gymraeg oedd ei blant yn derbyn oedd yn amlwg ei fod ef, a\u2019i wraig, oedd ddim yn siarad Cymraeg, ddim yn gweld gwerth yn y Gymraeg.<\/p>\n\n\n\n<p>A dyna\u2019r gair pwysig \u201cgwerth\u201d. Mae gwerth wedi bod yn elyn i\u2019r Gymraeg ers degawdau, ac yn fy marn i yn un o\u2019r rhesymau pam gwnaeth cenedlaethau blaenorol cymryd y penderfyniad i beidio trosglwyddo\u2019r Gymraeg i\u2019w plant. Saesneg oedd iaith y byd newydd cyffrous llawn botensial. Pam gwastraffu egni ar ddwy iaith pan mae modd canolbwyntio ar un?<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r mwyafrif llethol o Gymry yn gweld ei werth tu hwnt i ffiniau economaidd, mae\u2019r iaith yn rhan ohonom, yn rhan o\u2019n heneidiau, mae\u2019n fwy na modd o gyfathrebu.<\/p>\n\n\n\n<p>Ond, be am werth economaidd y Gymraeg? Mae\u2019r ddadl yn erbyn addysg Gymraeg a gwerth y Gymraeg wedi ei selio ar y ffaith fod neb, heblaw am lond llaw o bobol yn dde America, yn siarad Cymraeg tu hwnt i glawdd Offa.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cWe should be teaching our children useful languages like Chinese or German, they\u2019ll be far more useful in the World of commerce and trade\u201d &nbsp;a \u201cLearning Welsh means children spend less time learning important subjects like m\u00e0ths\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Sawl tro da ni di clywed y dadleuon hyn?<\/p>\n\n\n\n<p>Y gwir amdani yw da ni ddim yn neud digon o amlygu manteision addysg cyfrwng Cymraeg yn gyd-destun dwyieithrwydd. Does mond rhaid rhoi \u201cbenefits of being bilingual or multilingual\u201d i mewn i Google i dderbyn llu o erthyglau, nifer gan academyddion, sy\u2019n amlygu manteision dwyieithrwydd. Manteision iechyd a manteision addysgol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae dros yn hanner y byd yn medru dwy iaith neu fwy, mae\u2019r gallu i siarad Saesneg a \u201ciaith arall\u201d yn sgil benodol sydd \u00e2 manteision enfawr o fewn economi rhyngwladol aml ieithyddol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae datblygiadau yn y byd digidol wedi amlygu pwysigrwydd y gallu i gynnig gwasanaethau a\u2019r angen i ddatblygu technolegau sy\u2019n galluogi fwy o bobl i ymwneud a thechnoleg a chynnwys mewn ieithoedd brodorol yn cynnig cyfle unigryw i ni yma yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall datblygu diwydiant sy\u2019n ganolog ar ddwyieithrwydd a\u2019r dechnoleg o ddarparu cynnwys digidol mewn amryw o ieithoedd creu sector economaidd newydd sy\u2019n unigryw i Gymru o fewn y DU, trwy arloesi gall greu allbynnau sy\u2019n hynod fanteisiol i\u2019r Gymraeg.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall buddsoddiad gan lywodraeth creu cannoedd o swyddi newydd, creu cyfleoedd i Gymry ifanc i aros o fewn a dychwelyd i\u2019r cymunedau sydd angen chwistrelliad o waed ifanc.<\/p>\n\n\n\n<p>Trwy amlygu manteision economaidd dwyieithrwydd mae\u2019r her o \u201cwerthu\u2019r\u201d syniad o ddatblygu ysgolion cyfrwng Saesneg yn ysgolion lle mae disgyblion yn datblygu\u2019r gallu i gyfathrebu a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ochr yn ochr \u00e2 Saesneg yn mynd cymaint yn haws. &nbsp;<br><br><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Daeth canlyniadau\u2019r cyfrifiad yn \u00f4l ym mis Rhagfyr 2022 fel ergyd i\u2019r nifer sydd wedi\u2019n gweithio\u2019n ddiflino dros yr iaith yn ystod y degawd diwethaf a mwy, nifer fawr ohonynt &#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":1276,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1496","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.5 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Be nesa i\u2019r Gymraeg? - Huw Marshall<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/marshall.cymru\/?p=1496\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Be nesa i\u2019r Gymraeg? - Huw Marshall\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Daeth canlyniadau\u2019r cyfrifiad yn \u00f4l ym mis Rhagfyr 2022 fel ergyd i\u2019r nifer sydd wedi\u2019n gweithio\u2019n ddiflino dros yr iaith yn ystod y degawd diwethaf a mwy, nifer fawr ohonynt ...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/marshall.cymru\/?p=1496\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Huw Marshall\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/facebook.com\/huwmarshall\" \/>\n<meta property=\"article:author\" content=\"https:\/\/facebook.com\/huwmarshall\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2023-02-12T13:30:33+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-02-12T13:30:34+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/marshall.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/seating.jpeg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1280\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"853\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"admin\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@marshallmedia\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@marshallmedia\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"admin\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Estimated reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/?p=1496#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/?p=1496\"},\"author\":{\"name\":\"admin\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/d70f623370fec6c844753e72adf85089\"},\"headline\":\"Be nesa i\u2019r Gymraeg?\",\"datePublished\":\"2023-02-12T13:30:33+00:00\",\"dateModified\":\"2023-02-12T13:30:34+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/?p=1496\"},\"wordCount\":1383,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/d70f623370fec6c844753e72adf85089\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/?p=1496#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/12\\\/seating.jpeg\",\"articleSection\":[\"Uncategorized\"],\"inLanguage\":\"en-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/?p=1496#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/?p=1496\",\"url\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/?p=1496\",\"name\":\"Be nesa i\u2019r Gymraeg? - Huw Marshall\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/?p=1496#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/?p=1496#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/12\\\/seating.jpeg\",\"datePublished\":\"2023-02-12T13:30:33+00:00\",\"dateModified\":\"2023-02-12T13:30:34+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/?p=1496#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"en-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/?p=1496\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/?p=1496#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/12\\\/seating.jpeg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/12\\\/seating.jpeg\",\"width\":1280,\"height\":853},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/?p=1496#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Be nesa i\u2019r Gymraeg?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/\",\"name\":\"Huw Marshall\",\"description\":\"Digital Creativity\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/d70f623370fec6c844753e72adf85089\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"en-GB\"},{\"@type\":[\"Person\",\"Organization\"],\"@id\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/d70f623370fec6c844753e72adf85089\",\"name\":\"admin\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2023\\\/02\\\/huw-marshall-digital-solutions.png\",\"url\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2023\\\/02\\\/huw-marshall-digital-solutions.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2023\\\/02\\\/huw-marshall-digital-solutions.png\",\"width\":1200,\"height\":628,\"caption\":\"admin\"},\"logo\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2023\\\/02\\\/huw-marshall-digital-solutions.png\"},\"description\":\"Digital development in Welsh and English. Angerddol dros digidol.\",\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/marshall.cymru\",\"https:\\\/\\\/facebook.com\\\/huwmarshall\",\"https:\\\/\\\/instagram.com\\\/huwmarshall\",\"https:\\\/\\\/www.linkedin.com\\\/in\\\/huwmarshall\\\/\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/marshallmedia\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Be nesa i\u2019r Gymraeg? - Huw Marshall","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/marshall.cymru\/?p=1496","og_locale":"en_GB","og_type":"article","og_title":"Be nesa i\u2019r Gymraeg? - Huw Marshall","og_description":"Daeth canlyniadau\u2019r cyfrifiad yn \u00f4l ym mis Rhagfyr 2022 fel ergyd i\u2019r nifer sydd wedi\u2019n gweithio\u2019n ddiflino dros yr iaith yn ystod y degawd diwethaf a mwy, nifer fawr ohonynt ...","og_url":"https:\/\/marshall.cymru\/?p=1496","og_site_name":"Huw Marshall","article_publisher":"https:\/\/facebook.com\/huwmarshall","article_author":"https:\/\/facebook.com\/huwmarshall","article_published_time":"2023-02-12T13:30:33+00:00","article_modified_time":"2023-02-12T13:30:34+00:00","og_image":[{"width":1280,"height":853,"url":"https:\/\/marshall.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/seating.jpeg","type":"image\/jpeg"}],"author":"admin","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@marshallmedia","twitter_site":"@marshallmedia","twitter_misc":{"Written by":"admin","Estimated reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/marshall.cymru\/?p=1496#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/marshall.cymru\/?p=1496"},"author":{"name":"admin","@id":"https:\/\/marshall.cymru\/#\/schema\/person\/d70f623370fec6c844753e72adf85089"},"headline":"Be nesa i\u2019r Gymraeg?","datePublished":"2023-02-12T13:30:33+00:00","dateModified":"2023-02-12T13:30:34+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/marshall.cymru\/?p=1496"},"wordCount":1383,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/marshall.cymru\/#\/schema\/person\/d70f623370fec6c844753e72adf85089"},"image":{"@id":"https:\/\/marshall.cymru\/?p=1496#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/marshall.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/seating.jpeg","articleSection":["Uncategorized"],"inLanguage":"en-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/marshall.cymru\/?p=1496#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/marshall.cymru\/?p=1496","url":"https:\/\/marshall.cymru\/?p=1496","name":"Be nesa i\u2019r Gymraeg? - Huw Marshall","isPartOf":{"@id":"https:\/\/marshall.cymru\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/marshall.cymru\/?p=1496#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/marshall.cymru\/?p=1496#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/marshall.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/seating.jpeg","datePublished":"2023-02-12T13:30:33+00:00","dateModified":"2023-02-12T13:30:34+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/marshall.cymru\/?p=1496#breadcrumb"},"inLanguage":"en-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/marshall.cymru\/?p=1496"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-GB","@id":"https:\/\/marshall.cymru\/?p=1496#primaryimage","url":"https:\/\/marshall.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/seating.jpeg","contentUrl":"https:\/\/marshall.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/seating.jpeg","width":1280,"height":853},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/marshall.cymru\/?p=1496#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/marshall.cymru\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Be nesa i\u2019r Gymraeg?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/marshall.cymru\/#website","url":"https:\/\/marshall.cymru\/","name":"Huw Marshall","description":"Digital Creativity","publisher":{"@id":"https:\/\/marshall.cymru\/#\/schema\/person\/d70f623370fec6c844753e72adf85089"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/marshall.cymru\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"en-GB"},{"@type":["Person","Organization"],"@id":"https:\/\/marshall.cymru\/#\/schema\/person\/d70f623370fec6c844753e72adf85089","name":"admin","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-GB","@id":"https:\/\/marshall.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/huw-marshall-digital-solutions.png","url":"https:\/\/marshall.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/huw-marshall-digital-solutions.png","contentUrl":"https:\/\/marshall.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/huw-marshall-digital-solutions.png","width":1200,"height":628,"caption":"admin"},"logo":{"@id":"https:\/\/marshall.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/huw-marshall-digital-solutions.png"},"description":"Digital development in Welsh and English. Angerddol dros digidol.","sameAs":["https:\/\/marshall.cymru","https:\/\/facebook.com\/huwmarshall","https:\/\/instagram.com\/huwmarshall","https:\/\/www.linkedin.com\/in\/huwmarshall\/","https:\/\/x.com\/marshallmedia"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/marshall.cymru\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/1496","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/marshall.cymru\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/marshall.cymru\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/marshall.cymru\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/marshall.cymru\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=1496"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/marshall.cymru\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/1496\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1497,"href":"https:\/\/marshall.cymru\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/1496\/revisions\/1497"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/marshall.cymru\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/media\/1276"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/marshall.cymru\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=1496"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/marshall.cymru\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcategories&post=1496"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/marshall.cymru\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Ftags&post=1496"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}