Dyfodol Cynnwys Cymraeg

Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddwyd adolygiad annibynnol ar ddyfodol S4C gafodd ei awduro gan Euryn Ogwen Williams. Mae’r adroddiad ar gael i’w ddarllen YMA. Fe ymatebodd yr ysgrifennydd gwladol dros ddigidol, diwylliant, cyfryngau a chwaraeon trwy dderbyn yr argymhellion, eto mae’r ddogfen ar gael i’w ddarllen YMA.

Roedd nifer, gan gynnwys fi, yn siomedig a chyrch gorchwyl gwreiddiol yr adolygiad, roedd yma gyfle euraidd i ail ddiffinio sut oedd cynnwys am gael ei greu a’i ddosbarthu, nid yn unig gan S4C ond ar draws pob sefydliad a sector yng Nghymru.

Cylch gorchwyl cymharol gul oedd gan Euryn i weithredu o fewn yn ogystal â ffenest amser go gyfyng. Y 3 maes benodol oedd gofyn iddo edrych drosto oedd archwilio ei gylch gwaith, dulliau ariannu a llywodraethiant.

Dwi’n falch fod Euryn ddim wedi cyfyngu ei hun yn ormodol ac wedi edrych yn ehangach a chreu adroddiad yn seiliedig ar 3 pennod, sef:

Pennod 1: Darparu cynnwys o ansawdd uchel a gwasanaethu cynulleidfaoedd sy’n siarad Cymraeg.

Pennod 2: Diogelu S4C ar gyfer y dyfodol

Pennod 3: Sicrhau S4C annibynnol ac effeithiol

Mae mwy nag un wedi gwneud sylwadau ar lein yn cwestiynu rhai o ddamcaniaethau Euryn, yn enwedig ar y pwynt o cyllido S4C. Wedi darllen yr adroddiad mwy nag unwaith credaf fod Euryn yn gwneud pwynt teg, a call, sef sicrhau incwm sefydlog ar gyfer y tymor hir sy’n bwysig, nid o reidrwydd y lefel o ariannu, oedd ddim yn rhan o’r cylch gorchwyl.

Mae’r awgrym y dylai rôl y DCMS o gyfranu at gyllideb S4C cael ei diddymu yn neud synnwyr. Fel rhywun oedd o fewn S4C ar sawl achlysur pan oedd y llywodraeth yn Llundain yn cyhoeddi eu cynlluniau gwariant blynyddol yn yr Hydref, gallaf sicrhau fod yr egni a roddwyd i geisio sicrhau cefnogaeth blynyddol y DCMS yn straen ar adnoddau mewnol y sianel. Roedd yr ansicrwydd yn creu tensiynau’n fewnol ac o fewn y diwydiant yng Nghymru. Bydd cael sicrwydd o un ffynhonnell, ynghlwm a gallu S4C i weithredu’n fwy eang ac effeithiol yn fasnachol yn help mawr wrth llywio a cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Bydd y ddadl o’r lefel arianu yn un sy’n parhau am oes, mae hyn yn wir am unrhyw faes o iechyd i’r celfyddydau, o addysg i’r amgylchedd, gall pawb gwneud a fwy o arian, ond beth sy’n bwysig yw be sy’n cael ei wneud a’r arian sydd ar gael.

Dwi wir yn credu bod modd neud mwy efo’r arian sydd ar gael. Mae dulliau cynhyrchu ac yn enwedig costau adnoddau wedi eu trawsnewid yn ystod y degawd diwethaf. Mae’r oes o unigolion sydd ag un sgil benodol yn prysur dirwyn i ben, mae’r pobol mwyaf creadigol, a’r rhai sydd ar flaen y gad ym maes creu cynnwys yn feistri ar sawl disgyblaeth, yn ymchwilio, sgriptio, saethu a golygu, a hyn oll ar offer sydd ym meddiant canran go lew o’r poblogaeth heddiw. Lle oedd angen morgais i brynu offer camera, caledwedd a meddalwedd golygu degawd yn ôl, mae’r ffon clyfar, y gliniadur a thechnoleg y cwmwl wedi agor drws ar fydysawd newydd o greadigrwydd.

Camgymeriad mawr S4C yn y gorffennol, yn fy marn i, oedd y penderfyniad i greu a chynnal nifer bach o gwmnïau mawr. Cwmnïau sydd erbyn hyn wedi symud i fod yn nwylo cwmnïau mawr o dros y ffin, ac yn fuan dros foroedd yr Iwerydd. Mae modelau busnes y cwmnïau hyn ddim yn eistedd yn gyfforddus a’r “margins” sydd ar gael o gyllidebau S4C. Gall diwydiant a diwylliant o gwmnïau bach ysgogi oes newydd o greadigrwydd a chydweithrediad, sef y sylfaeni y gafodd S4C ei adeiladu arnynt.

Mae angen i S4C fod yn ddewr yn eu penderfyniadau yn ogystal ac adeiladu partneriaethau cryf sydd a pwrpas ac egni yn perthyn iddynt, dau beth mae’r sianel wedi methu ei wneud yn y gorffennol. Mae angen symleiddio’r ffordd mae S4C yn gweithredu, datblygu model ystwyth (Agile). Mae S4C yn cael ei trin fel corfforaeth, lle mewn gwirionedd SME ydi’r sianel.

Yr elfen mwyaf dadleuol, ac un sydd heb derbyn yr un sylw a’r mater o gyllid, yw’r cynnig y dylid S4C edrych i ddatblygu ei cyrhaeddiad fewnol i ddechrau cynhyrchu cynnwys ddigidol “In house”. Mae’r ddadl yn cael ei wneud fod ddim modd i S4C datblygu fel cynhyrchydd unionlin (er fod dim yn ei rhwystro) ond bod yna fodd i wneud hyn yn ddigidol. Dwi’n anghytuno yma, a dyma lle mae’r term digidol yn gael ei gamddefnyddio. Dyw digidol bellach ddim yn rhywbeth ar wahân, rhywbeth gwahanol i’r norm, y norm yw digidol, mae’n rhan o bopeth heddiw. Does dim gwahaniaeth rhwng unionlin a digidol, dim ond y ffordd mae rhywun yn edrych ar pethau.

Yn bersonol partneriaeth yw’r ffordd ymlaen i ddatblygu capacity yn y maes yma, gall buddsoddiad mewn adnoddau a sicrhau bod rhain ar gael i gynhyrchwyr, bach a mawr cyflawni llawer, mae modelau tebyg i weld ar draws Ewrop gyda EITB y darlledwr cyhoeddus yng ngwlad y Basg yn enghraifft ymarferol dda o hyn.

Mae angen creu clwstwr, clwstwr o unigolion a chwmnïau, sy’n creu cynnwys yn eu amryw ffurf, clwstwr sydd a phartneriaethu yn ei DNA. Gall y clwstwr fod yn un corfforol a rhithiol, ond mae angen hwb i’r gweithgaredd hyn a dyma lle gall S4C arwain y ffordd. Mae’r Egin yn Gaerfyrddin yn cynnig cyfle i ddatblygu hyn, a dylai’r Egin yn Gaerfyrddin fod y cyntaf o nifer ar draws Cymru, hybiau creadigol a ddiwylliannol.

Mae’r ewyllys yna, mae’r talent yna, beth sydd angen nawr yw’r fframwaith ymarferol, cefnogaeth busnes a marchnata, cynlluniau addysgu ac hyfforddi, ffynonellau o fuddsoddiad gall sicrhau fod cynnwys yn y Gymraeg yn cael ei greu ar gyfer nifer o chynulleidfaoedd gwahanol yma yng Nghymru a thu hwnt ag y bod modd i gynnwys a phlatfformau sy’n cael ei ddatblygu yma yng Nghymru medru cyrraedd marchnadoedd ryngwladol.

Mae’n amser tyngedfennol i’r Gymraeg yn ddiwylliannol a thechnolegol, mae hefyd yn amser cyffrous. Gall siapio S4C sy’n addas ar gyfer y degawdau nesaf helpu sicrhau y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *