Strategaeth ddigidol ar gyfer y Gymraeg

Rydym yn byw mewn byd gynyddol ddigidol, dyw digidol ddim yn dewis bellach mae’n rhan o’n bywydau pob dydd. Y ffon clyfar sy’n byw yn bron pob un boced, cyfryngau cymdeithasol sy’n ein galluogi i gyfathrebu, ymgysylltu a hyrwyddo. Mae technoleg yn y cartref, y swyddfa, ein hysgolion a sefydliadau addysg bellach ag uwch wedi esblygu ar raddfa tu hwnt i’n disgwyliadau.

Mae’r cynnydd mwyaf gweledol wedi dod ar ffurf teclynnau sy’n rheoli drwy lais, mae Siri ac Alexa nawr yn ein galluogi i siopa, darganfod, ysgrifennu, gwrando a gwylio cynnwys, mae’r “Remote Control” gyda’i amrywiaeth o fotymau nawr yn ddianghenraid, gofynnwch ac fe gewch y bennod ddiweddaraf o’ch hoff raglen deledu, ond, ac mae’n OND mawr, dim ond os ydych yn gofyn mewn iaith mae’r peiriant yn ei ddeall. Gofynnwch am y bennod ddiweddaraf o Bobol y Cwm, Rhys Meirion yn canu Anfonaf Angel neu hyd yn oed gofyn i ffonio rhywun efo enw Cymraeg mae di canu arnoch chi. Dwi wedi gorfod storio enw fy ngwraig, Bethan, fel Bethann yn y iPhone er mwyn cael Siri i ddeall…..

Ond nid y rhyngwyneb llais yn unig yw’r her i’r Gymraeg, wrth i AI (Artificial Intelligence) datblygu mae’r angen i beiriannau medru deall ieithoedd gwahanol yn mynd yn gynyddol bwysicach.

Gyda phob her daw cyfle. Mae’r byd yn un amlieithyddol, dwyieithrwydd yw’r norm ochr yma o glawdd Offa a thu hwnt i glogwyni gwyn Dover. Beth bynnag eich barn neu safbwynt ar Brexit, mae yma gyfle euraidd i ddatblygu Cymru fel Y ganolfan ar gyfer rhyngwladoli cynnwys (yr Iseldiroedd yw’r hwb Ewropeaidd presennol).

Mae llawer wedi ei wneud o’r angen i feithrin perthnasau da a phositif gyda mawrion y byd digidol, Google, Apple, Facebook ayb. Mae disgwyl iddynt ymateb mewn modd positif i’r Gymraeg tra bod ieithoedd eraill, sydd â niferoedd uwch o ddefnyddwyr a chynrychiolaeth gan wladwriaethau sofran, o’n blaenau yn y ciw yn her yn ei hun. Felly beth yw’r cynnig ychwanegol, y USP, sydd gan Gymru a’r Gymraeg i gynnig?

Dyw’r atebion ddim yn feddiant un unigolyn, bydd angen cydweithrediad a rhannu syniadau rhwng unigolion, sefydliadau, cyrff a busnesau. Yn angyhnhadledd Hacio’r Iaith nes i awgrymu’r angen am greu “Think Tank” a fydda’i yn trafod y byd digidol yng Nghymru, yn helpu arwain ar bolisi yn y maes, arwain trafodaethau o amgylch yr heriau a chyfleoedd sy’n bodoli heddiw ac yn y dyfodol, yn cynnig llais positif i’r Gymraeg mewn cyd-destun digidol ag i helpu datblygu clwstwr o fusnesau sy’n weithredol yn y maes.

Dyma felly yw’r cam cyntaf, rwy’n estyn gwahoddiad agored er mwyn galluogi creu’r “think tank” cyntaf o’i bath, un sydd â chyfansoddiad a’r gallu i greu strategaeth ddigidol ar gyfer y Gymraeg.

Os oes diddordeb felly, gennych chi fel unigolyn, sefydliad, corff neu fusnes, llenwch y ffurflen isod. Mae nifer wedi dangos diddordeb eisoes a rhai yn cynnig cymorth ymarferol. Felly beth bynnag eich arbenigedd neu faes, dangoswch eich diddordeb trwy lenwi’r ffurflen. Fe awn ati yna i drefnu amryw o gyfarfodydd mewn canolfannau ar hyd a lled Cymru cyn mynd ati i lansio’n swyddogol.

Enw (angen)

Ebost (angen)

Pwnc

Neges


Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *