Fe Ddaeth Yr Awr….

Dyfodol Cynnwys Yn Y Gymraeg

Mae dechrau mis Awst yn gyfnod traddodiadol ar gyfer cyhoeddiadau cyfryngol. Mae OFCOM yn cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar y farchnad cyfathrebu, yn cynnig golwg ar arferion cyfryngol trigolion y Deyrnas Unedig a’r cenhedloedd. Mae RAJAR yn cyhoeddi ei ffigyrau gwrando chwarterol, ag eleni fe gyhoeddodd pwyllgor diwylliant, y Gymraeg a chyfathrebu’r cynulliad canlyniadau eu hymchwiliad i ddyfodol S4C — Tu Allan i’r Bocs, ymchwiliad ges i’r fraint o fod yn rhan ohono. Roedd amseru’r cyhoeddi yn ddiddorol, wythnos cyn yr Eisteddfod ym Môn, man sawl cyhoeddiad pwysig yn y gorffennol, a gydag adolygiad annibynnol y DDCMS i ddyfodol S4C wedi ei oedi ers sbel, fe synnwn i ddim y daw mwg gwyn a manylion am siâp, ffurf ac amserlen yr adolygiad hir ddisgwyliedig o stondin S4C ar faes y brifwyl yn y dyddiau nesaf.

Felly, beth rydym wedi dysgu o’r cyhoeddiadau hyd yma? Mae OFCOM a RAJAR wedi cadarnhau fod natur “ar alw” o fwynhau cynnwys trwy lwyfannau digidol yn parhau i gynyddu, yn enwedig ymysg yr ifanc. Fe welodd Radio Cymru ei ffigyrau’n cynyddu unwaith eto, chwarter ar chwarter. Mae’n werth nodi fod y cynnydd diwethaf wedi ei yrru, yn sylweddol, gan gynulleidfa iau ar lwyfannau digidol. Mae’n debyg y gwelwn fwy o’r un peth y tro hwn. Gall adroddiad OFCOM cael ei ddisgrifio’n gryno gan y frawddeg “cenhedlaeth y box set”, mwy o wylio ar alw ag ar lwyfannau digidol. Bydd y rhai traddodiadol yn ein mysg yn parhau i bwysleisio bod “gwylio’n fyw yn parhau i fod yn boblogaidd”, ond mae’r gwirionedd yn gymhleth. Dwi’n dal i wylio rhywfaint o gynnwys byw yn ddyddiol, rhaglenni newyddion yn bennaf , ond mae mwyafrif llethol o fy ngwylio yn digwydd ar alw, a be fydd yn peri gofid i ddarlledwyr traddodiadol yw’r ffaith bod fy ddwy ferch, 8 a 4, yn gwylio 100% ar alw, gyda darn sylweddol o’r cynnwys maent yn ei wylio yn cynnwys YouTube sydd ddim wedi ei deillio o ddarlledwr traddodiadol. Sy’n gosod dod a ni’n gyfleus i adroddiad pwyllgor y cynulliad ar ddyfodol S4C.

Mae S4C yn eu dogfen eu hunain “gwthio’r ffiniau” yn gwneud yr achos am ehangu eu cyrch gorchwyl fydd yn eu caniatáu i weithredu darparwr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, yn lle’r model darlledwr gwasanaeth cyhoeddus presennol. Mae cyllid ychwanegol ei angen i weithredu fel hyn, mae swm o £6,000,000 y flwyddyn wedi ei grybwyll. Ond mae’n fwy o achos o barhau a’r hen ffordd o fyw , gwasanaeth teledu unionlin gydag ychwanegion digidol wedi glynu wrth yr ochor ar gyfer y to iau.

Mae llywodraeth Cymru wedi gosod her o gyrraedd 1,000,000 o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, targed anferthol ond ysbrydoledig, felly gyda hyn mewn golwg dwi’n mawr obeithio bydd arolwg y DDCMS yn caniatáu datblygiad o sgwrs genedlaethol o amgylch dyfodol creu a dosbarthu cynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn dod a holl rhandeiliaid sy’n comisiynu cynnwys yn y gofod hwn at ei gilydd.

Mae angen ail ystyried ac ail feddwl y math o gynnwys bydd ei hangen a fydd yn cael ei fyny gan y to iau, naturiol dwyieithog, a sut bydd modd iddynt gael mynediad ato.

Pe bawn yn sefydlu darparwr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus o’r newydd yfory, byddai gwasanaeth deledu unionlin ddim wrth ei galon. Be am i ni fod yn ddewr a chreu model newydd ar gyfer darparu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus, un sy’n cynnig arlwy ar gyfer pob oedran a chefndir cymdeithasol, un sy’n addysgu ac adlonni ein myfyrwyr o 3 i 25, un sy’n cynnig darpariaeth cynnwys i siaradwyr Cymraeg, lle bynnag y maent ar eu siwrnai i gyrraedd rhuglder, sy’n cyfoethogi eu bywydau dyddiol, sy’n rhoi’r un gwerth (a chyllid) i gynnwys sydd wedi ei greu ar gyfer Facebook. Heb anghofio am y gynulleidfa draddodiadol.

Be am i ni greu diwylliant newydd ar gyfer creu cynnwys ar draws aml lwyfannau, cynnig cefnogaeth ariannol ar gyfer creu cynnwys sain a fideo annibynnol. Mae S4C yn falch iawn o’r ffaith taw nhw yw’r unig “sianel deledu yn yr iaith Gymraeg yn y byd”, ond a yw’r diffyg cystadleuaeth wedi atal ei ddatblygiad? A yw ei ffocws wedi bod canolbwyntio ar efelychu’r sianeli dros glawdd Offa, behemoths sy’n amhosib cystadlu yn eu herbyn? Bydd amrywiaeth yn y farchnad yn beth da i bawb, yn enwedig y rhanddeiliaid pwysicaf oll, y gynulleidfa.

Gallwn greu diwylliant newydd o amgylch ein cynnwys, cynnwys sy’n unigryw i Gymru, cynnwys mae’r gynulleidfa yn agosáu ato yn naturiol.

Etifedd S4C yw archif o gynnwys cyfoethog ac amrywiol, trysorfa ar gyfer “cenhedlaeth y box set”. CeltFflics, porth i fôr o gynnwys bydd y gynulleidfa yn medru ymgolli ynddo, bydd modd creu llwyfan o’i bath mewn mater o fisoedd. Llwyfan pwrpasol sy’n manteisio ar y datblygiadau technoleg lleferydd diweddaraf fydd yn caniatáu cynnwys Cymraeg i gyrraedd cynulleidfaoedd rhyngwladol a chreu incwm masnachol.

Dyma’r lefel o uchelgais sydd ei angen yng Nghymru, lefel sy’n rhoi siaradwyr Cymraeg a chynnwys yn yr iaith Gymraeg ar lwyfan byd eang.

Bydd rhaid disgwyl cyhoeddiad y DDCMS, gobeithio taw ddim mater o dyma’r pres a pharhewch fydd o, mae siaradwyr Cymraeg a Chymru fel cenedl yn haeddu gwell.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *