Helo Alexa a Siri, da chi’n siarad Cymraeg?

Tua blwyddyn yn ôl nes i gwrdd ag un o benaethiaid Amazon TV yn Llundain, yno i drafod cael S4C ar y llwyfan o’n i, ond datblygodd y sgwrs i drafod strategaeth Amazon o ran tyfu eu cynulleidfa. Be oedd yn ddiddorol oedd y ffigyrau o safbwynt gwerthiant Amazon TV, ar “Black Friday” cyn Nadolig 2015 fe werthwyd dros 100,000 o unedau mewn diwrnod. Mae Amazon, ychydig yn wahanol i Netflix, yn neud ymdrech benodol i dargedu’r farchnad deuluol. Felly mae eu dyfeisiadau mewn nifer o gartrefi lle mae plant yn bresennol.

Ond y ffaith nath aros efo fi o’r cyfarfod oedd yr ystadegyn ynglŷn â chwiliadau trwy lais. Mae’n debyg bod hyd at 80% o’r chwilio am gynnwys yn cael ei wneud trwy lais, wyth deg y cant….

Dwi’n byw mewn cartref lle mae’r Gymraeg a Saesneg yn bodoli ochr yn ochr, ein prif ddyfais ar gyfer gwylio cynnwys yw’r Apple TV a trwy hwn y tri “sianel” mwyaf poblogaidd yw Netflix, NowTV a YouTube. Mae mynediad gennym i deledu cyffredin trwy ein blwch freesat, ond yn achlysurol mae hwn yn cael ei ddefnyddio. Mae’r “remote” ar gyfer yr Apple TV gyda botwm llais, a dwi’n ffeindio fy hun yn ei ddefnyddio mwy mwy. Mae’r genod, yn enwedig yr hynaf sy’n 8, yn defnyddio darganfod trwy lais yn rheolaidd.

Felly pam bod hyn yn bwysig? Ar y 20fed o Ionawr o’n i’n bresennol yng nghanolfan Pontio ar gyfer cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg oedd wedi ei drefnu gan ganolfan Bedwyr. Oedd technoleg adnabod lleferydd yn amlwg ar yr agenda.

Mae enghraifft sy’n amlygu’r broblem i’w weld yn y fideo bach doniol yma gan Llio Angharad wrth iddi holi Alexa am Llanfair PG

O ystyried yr hyn a nodwyd uchod mae’r gallu i ddefnyddio technoleg llais i chwilio a rheoli eisoes wedi sefydlu ei hun mewn nifer o gartrefi, a hyn fydd y norm wrth symud ymlaen. Mewn cartrefi Cymraeg mae’n cyflwyno dwy her ar hyn o bryd, yn gyntaf mae darganfod cynnwys Cymraeg yn anodd os nad amhosib. Mae hyn wedyn yn golygu bod statws y Gymraeg o fewn cartrefi am ddirywio.

Felly beth sydd angen digwydd i sicrhau lle i’r Gymraeg yn y gofod digidol hynod bwysig hon?

Sa fo’n braf gweld Alexa, Siri ag unrhyw lwyfan adnabod lleferydd yn cynnig opsiwn Cymraeg “allan o’r bocs” ond yn anffodus mae’r Gymraeg reit bell lawr y rhestr o flaenoriaethau masnachol i’r cwmnïau enfawr rhyngwladol yma. Mae Alexa, trwy’r ddyfais Amazon Echo, dim ond ar gael i ddefnyddio yn Saesneg a’r Almaeneg. Mae Siri yn cefnogi 20 iaith a dim ond yn ddiweddar y cefnogwyd ieithoedd gymharol fawr Ffinneg a Norwyeg. Rhaid cofio hefyd taw cwmni NUANCE sy’n darparu’r peiriant adnabod lleferydd i SIRI, nid Apple eu hunain.

Y gwir amdani yw mai amser yn ein herbyn, mae angen datrysiad ac mae angen un cyn gynted a bo modd. Mae angen i ni gyflawni ac ysgwyddo’r baich sylweddol o greu’r corpws ieithyddol a pharatoi’r pecynnau iaith berthnasol, mae angen canmol canolfan Bedwyr am y gwaith arbennig maent wedi cyflawni yn y maes hwn hyd yma. Os gallwn gynnig datrysiadau i’r cwmnïau mawr fydd yn hwyluso’r broses i gefnogi’r Gymraeg gall hyn fod o gymorth.

Y gwirionedd yw bod yn annhebygol y bydd y cwmnïau mawr yma yn darparu cefnogaeth i’r Gymraeg nes iddynt weld y budd masnachol iddynt fel busnesau.

Y ffordd orau, a chyflymaf, o ddatrys hyn yw creu rhyngwyneb, Ap sy’n medru eistedd rhwng y defnyddiwr a’r ddyfais, Ap sy’n cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg a chyfathrebu a’r ddyfais ag yn ôl yn ddiarwybod i’r defnyddiwr.

Oes le am gydweithio agosach gydag ieithoedd lleiafrifol eraill? Mae hyn yn her sy’n gyffredin i nifer o ieithoedd llai, gyda’n gilydd gallwn neud achos cryf economaidd……..

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *