A yw Pobol Ifanc yn Troi eu Cefnau ar Deledu Traddodiadol?

Mewn blynyddoedd i ddod bydd canol Tachwedd yn cael ei weld fel amser gofidus i’r rhai sy’n gweithio ym myd darlledu draddodiadol. Pam? Dyma pryd mae Ofcom yn cyhoeddi eu hadroddiad “Defnydd ag agweddau cyfryngol: plant a rhieni”. Eith y ddolen hon a chi i’r penawdau a’r adroddiad ei hun.

Pam gofid? Mae’r adroddiad diweddaraf yn cadarnhau’r hyn mae pobol, gan gynnwys fi, wedi bod yn datgan ers sbel, mae pobol ifanc yn troi eu cefnau ar deledu ag yn chwilio am bleserau newydd ar lein. Am y tro cyntaf mae’r we wedi goddiweddid gwylio teledu fel eu prif ffynhonnell adloniant cyfryngol yn y DU. Tra bod yr ifanc dal i wylio cynnwys ar y set deledu yn yr ystafell fyw y gofid i ddarlledwyr traddodiadol yw’r ffaith bod y gofod yma’n cael ei ganibaleiddio gan y “newydd ddyfodiadau”  fel Netflix, Amazon Prime a YouTube.

Tra bod oedolion yn parhau fel didolwyr cynnwys mae’r dewis sydd ar gael i blant wedi ffrwydro tu hwnt i’r EPG. A diolch i’r set deledu glyfar mae’r unigolion “digidol yn gyntaf” yma yn gwybod sut i lywio tu hwnt i’r ffiniau traddodiadol hyn. Mae genna’i phrofiad uniongyrchol o hyn trwy fy nwy ferch 8 a 4 sy’n amlyncu cynnwys newydd (mewn modd wedi ei reoli a dogni), ffefrynnau diweddar yw Dinosaur King, cyfres wedi animeiddio o 2008 a Mia & Me cyfres Ewropeaidd sy’n mynd a nhw i fyd o dylwyth teg ac uncyrn. Mae’r ddwy gyfres hon yn dod trwy Netflix, felly er bod y cynnwys yn dod trwy’r we, mae’n cael ei chyfri fel gwylio teledu.

Y pennawd arall o’r adroddiad, a’r un pwysicaf i ddarlledwyr yw’r ffaith fod y gynulleidfa yn gwylio llai o “raglenni” a fwy o “UGC” sef cynnwys wedi ei greu gan ddefnyddwyr, walkthrough’s gemau cyfrifiadurol, Flogwyr, dad focsio teganau a phlant eraill yn chwarae efo teganau.

Felly beth mae hyn oll yn ei olygu i’r darlledwyr traddodiadol? Sut maent yn cael mynediad i’r gofodau newydd yma? A ddylent? Oes angen dargyfeirio cyllid rhaglenni teledu i’r ardaloedd hyn?

Mae hyn oll yn cynnig heriau ychwanegol i’r Gymraeg. Mae’r mwyafrif llethol o’r cynnwys UGC yma yn Saesneg, gyda mwy mwy o bobol ifanc yn dewis y cynnwys hwn dros gynnwys traddodiadol a chyllidebau darlledwyr cyhoeddus dan bwysau cynyddol yn flynyddol, sut mae sicrhau fod y cynnwys hwn yn cael ei greu mewn digon o gyfaint er mwyn creu impact yng Nghymru, yn y Gymraeg a Saesneg?

Wrth drafod dyfodol “Darlledu” yng Nghymru rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth. Mae’r byd cyfryngau yn newid ar raddfa ni welwyd o’r blaen.

Mae Huw Marshall yn gyn pennaeth digidol efo S4C, mae nawr yn gweithio fel ymgynghorydd cyfryngol a strategydd digidol.

https://www.ofcom.org.uk/about-ofcom/latest/features-and-news/childrens-media-use

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *